
Mae pob undeb credyd yn cael ei redeg gan ei aelodau. Maen nhw’n ethol Bwrdd Cyfarwyddwyr a phwyllgorau eraill mewn Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol. Yn y cyfarfodydd blynyddol hyn mae’r Cyfarwyddwyr yn cael eu hethol am gyfnod o dair blynedd, sy’n sicrhau bod traean ohonynt yn cael eu cyfnewid bob blwyddyn, er mwyn sicrhau profiad. Yn eu cyfarfod cyntaf ar ôl y cyfarfod blynyddol mae’r Cyfarwyddwyr wedyn yn penodi’r swyddi canlynol:
Mae’n rhaid cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol o fewn 6 mis i ddiwedd y flwyddyn ariannol sy’n rhedeg o 1 Hydref – 30 Medi. Rydym yn cynnal ein cyfarfod blynyddol fel arfer ym mis Tachwedd bob blwyddyn.

Mae rheolau Undeb Credyd Llandudno a’r Cylch yn caniatau hyd at 15 o gyfarwyddwyr neu leiafswm o 5. Mae ein rheolau wedi eu datblygu o ganllawiau a dderbyniwyd gan ABCUL, ein cymdeithas masnach, ac wedi eu derbyn gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Mae pob Cyfarwyddwr yn aelodau ac yn wirfoddolwyr di-dâl o’r gymuned leol. Maen nhw hefyd yn derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gweithredu’r cyfrifoldebau isod:
Caniateir uchafswm o 6 a lleiafswm o 3 aelod yn ôl ein rheolau. Maen nhw’n cael eu hethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Maent yn aelodau sydd yn wirfoddolwyr di-dâl. Eu prif ddyletswyddau yw:
Mae ein rheolau yn nodi bod rhaid cael 3 aelod i ffurfio’r pwyllgor hwn. Maen nhw’n cael eu hethol yn yr un ffordd ag a ddisgrifwyd ar gyfer y Bwrdd Cyfarwyddwyr a’r Pwyllgor Credyd. Eu prif ddyletsywddau yw:
Mae Undeb Credyd Llandudno a’r Cylch wedi casglu gwybodaeth a phrofiad sylweddol dros y blynyddoedd cyn ac ar ôl sefydlu’r undeb yn 1996. Gallwch fod yn siwr bod eich cynilion mewn dwylo diogel.