
Hoffech chi wirfoddoli? Mae gwneud gwaith gwirfoddol yn help i’ch undeb credyd, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i chi chwarae rhan weithgar mewn gwasanaeth cymunedol pwysig.
Cyfleoedd i wirfoddoliGall hefyd roi cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd neu i ymarfer sgiliau sydd gennych yn barod. Mae gan y rhan fwyaf o undebau credyd gyfleoedd i wirfoddoli ac nid yw Undeb Credyd Llandudno a’r Cylch yn eithriad.
Mae cyfleoedd i wirfoddoli ar gael mewn nifer o feysydd:
Mae hyfforddiant a chefnogaeth priodol ar gael ac fe werthfawrogir eich cyfraniad yn fawr, yn arbennig gan yr aelodau.
Peidiwch a bod ofn holi am ragor o fanylion – rydyn ni wastad yn chwilio am wirfoddolwyr, yn enwedig wrth i ni dyfu ar draws y sir. Fel yr ydym yn nodi uchod, fedrwn ni ddim datblygu na chynnig y lefel o wasanaeth y mae ein haelodau yn ei haeddu heb gymorth gwirfoddol.
Ac mae’n bosibl y bydd y profiad o fantais i chi! Mae nifer o’n haelodau wedi cael swyddi ar ôl datblygu sgiliau tra’n gwneud gwaith gwirfoddol i’r undeb credyd.