
Mae cynilio gydag undebau credyd yn gyfleus ac yn ddiogel. Mae pob £1 rydych yn ei gynilo yn cyfateb i gyfranddaliad unigol a gall aelodau gynilo cyn lleied neu gymaint ag y maen nhw’n ei ddymuno ond ar sail reolaidd. Mae modd i gynilion gronni’n sydyn unwaith mae rhywun wedi dod i’r arferiad ac fe anogir aelodau i barhau i gynilo hyd yn oed pan maen nhw’n talu’n ôl am fenthyciad.
Mae cyfanswm y cynilion sy’n cael ei gadw gan yr undeb credyd yn cael effaith uniongyrchol ar faint o arian sydd ar gael i’w gynnig fel benthyciadau i’w aelodau.
Mae undebau credyd yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) ac mae’n rhaid iddyn nhw gydymffurfio gyda Deddf Undebau Credyd 1979. Mae gan bob undeb credyd yswiriant sy’n diogelu eich cynilion yn erbyn lladrad a thwyll. Yn ogystal â’r diogelwch yma, mae’n rhaid i bob undeb credyd gael pwyllgor arolygol sy’n goruchwylio ei weithgareddau o ddydd i ddydd.
Yn ogystal, mae pob undeb credyd yn y wlad yma yn cael ei gefnogi gan gynllun iawndal cenedlaethol drwy’r FSA sydd ar hyn o bryd yn cefnogi pob banc a chymdeithas adeiladu. Cofiwch bod eich £50,000 cyntaf wedi ei ddiogelu’n llwyr – i bob pwrpas cewch eich digolledu os ydy’r undeb credyd yn mynd yn fethiant. Nid yw hynny’n rhywbeth rydym yn ei ragweld gyda’n hundeb credyd ni, ond mae’n gefnogaeth sylweddol i’n haelodau.
Mae cynilion yn cael eu defnyddio i roi benthyciadau i aelodau. Mae’r llog a dderbynir o’r benthyciadau yn cael ei ail-fuddsoddi yn yr undeb credyd. Mae unrhyw swm sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio er mwyn creu cronfeydd wrth gefn a/neu i dalu difidendau i aelodau.
Mae Undeb Credyd Llandudno a’r Cylch wastad wedi talu difidend blynyddol i’w aelodau.
Gall aelodau dynnu arian allan o’u cynilion unrhyw bryd. Nid oes angen unrhyw rybudd o hynny ar gyfer sieciau cyfranddaliadau, nac arian cyfranddaliadau o dan £2000; ar gyfer symiau arian mwy rydyn ni angen 7 diwrnod o rybudd. Nid oes modd tynnu arian allan yn erbyn sieciau a dalwyd i mewn i’r cyfrif nes bod 10 diwrnod wedi mynd heibio er mwyn i’r arian glirio. Gall aelodau drosglwyddo arian yn uniongyrchol i’w cyfrif drwy’r system BACS. Mae ffi o £1 am y gwasanaeth yma ac mae’n cymryd 3 diwrnod gwaith.
Ond fe anogir aelodau i gadw eu cynilion yn gyfan. Mae hyn yn sicrhau eich bod:
Er mwyn bod yn aelod llawn mae angen i chi fod yn 16 oed neu’n hyn ond mae llawer o undebau credyd, fel ninnau, yn gweithredu cynllun cynilo iau sy’n annog pobl ifanc i ymuno ac i feithrin yr arferiad o gynilo. Pan maent yn cyrraedd 16 mae aelodau iau yn dod yn aelodau llawn yn awtomatig ond yn gyfreithiol mae angen disgwyl dwy flynedd arall er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad.
Mae Undeb Credyd Llandudno a’r Cylch yn croesawu cynilwyr iau – cliciwch ar y linc yma am ffurflen gais a dilynwch y camau sy’n cael eu hamlinellu yn yr adran ar aelodaeth.
Talu arian i mewn - Yn syml, dewch a’ch cynilion (arian neu siec), slip taliad a’ch paslyfr i swyddfa’r undeb credyd yng Nghyffordd Llandudno neu i unrhyw un o’n mannau casglu yn ystod yr oriau agor. Caiff eich paslyfr ei adnewyddu’n syth.
Mae cynilo gan ddefnyddio Archeb Sefydlog yn ddewis hynod o gyfleus – os oes gennych gyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu gallwch lwytho ffurflen fandad Archeb Sefydlog o’r dudalen “Ffurflenni i’w Llwytho” neu cliciwch yma a gyrrwch y ffurflen i ni drwy ein swyddfa neu un o’r mannau casglu.
A cofiwch bod modd hefyd i dalu eich pensiwn neu unrhyw fudd-daliadau gwladol i mewn yn uniongyrchol i’ch cyfrif gyda’r undeb credyd.
Os ydych yn cael eich cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru neu Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru ac yn byw neu’n gweithio yn sir Conwy, gallwch hefyd gymryd mantais o’n Cynllun Didynnu Cyflog.
Cyfrifon Clybiau Nadolig – Gall aelodau agor cyfrif Clwb Nadolig gan dalu o leiaf £1 i mewn ond nid oes modd tynnu arian allan wedyn tan Dachwedd 1af. Mae’r cynllun cynilo arbennig hwn ar agor rhwng Tachwedd 1af tan Hydref 31ain yn unig a bydd unrhyw ddifidend a gesglir yn cael ei dalu yn flynyddol ar Dachwedd 30ain.
Sylwch bod y cyfrif yn hollol hyblyg o Dachwedd 1af a gallwch dalu arian i mewn a thynnu allan heb gyfyngiad. O Ionawr 1af wedyn ni fedrwch dynnu arian allan o’r cyfrif unwaith eto.
Cysylltwch â’r swyddfa neu galwch draw i unrhyw bwynt casglu am fanylion pellach.
Bydd eich cynilion Nadolig yn ddiogel gyda’r Undeb Credyd.