
Gall unrhyw un sydd dros 16 oed fod yn aelod llawn o undeb credyd cyn belled eu bod yn rhannu’r “bond cyffredin”. Yn gyfreithiol mae’n rhaid i chi fod yn 18 neu drosodd er mwyn derbyn benthyciad.
Mae aelodaeth iau ar gael i rai sydd dan 16 oed ac mae bod yn aelod o undeb credyd yn ffordd wych i bobl ifanc ddysgu’r arferiad o gynilo.
Mae pob undeb credyd wedi’i seilio ar y “bond cyffredin”. Mae hyn yn golygu bod gan yr aelodau i gyd rywbeth yn gyffredin. Mae ein bond cyffredin ni wedi’i seilio ar y ffaith bod modd i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn sir Conwy ymuno â’n Undeb Credyd.
Os ydych chi’n rhannu ein bond cyffredin, mae ymuno â’n Undeb Credyd yn syml iawn. Dilynwch y camau hawdd sy’n cael eu dangos isod. Unwaith rydych chi wedi cael eich derbyn, gofynnir i chi dalu ffi blynyddol bychan o £2 a wedyn byddwch yn gallu cynilo’n rheolaidd a chymryd mantais o’r buddion sydd ar gael i aelodau.
Nodwch – mae’n rhaid i chi fod un ai’n byw neu’n gweithio yn sir Conwy.
Llenwch ffurflen ymaelodi (ar gael i’w lwytho yma)
Bydd angen dau ddull adnabod arnoch chi ac mae’n rhaid i o leiaf un ohonynt ddangos eich cyfeiriad presennol.
| Er enghraifft: Prawf adnabod derbyniol |
Er enghraifft: Prawf cyfeiriad derbyniol |
Trwydded Yrru |
Bil gwasanaeth cyhoeddus, h.y. nwy, trydan |
| Pasbort | Cyfriflen banc / cerdyn credyd |
| Pas adnabod cyflogwr gyda llun | Paslyfr cymdeithas adeiladu |
| Tystysgrif Geni | Llyfr budd-daliadau |
| Cerdyn GIG | Bil Treth y Cyngor |
Os nad ydych yn byw yn sir Conwy ond yn gweithio neu’n astudio yma:
Sicrhewch eich bod yn gallu darparu’r dogfennau ychwanegol yma:
Myfyrwyr – Dogfen sy’n dangos eich bod yn astudio mewn sefydliad addysgol yng Nghonwy.
Gwirfoddolwyr – Dogfen gan y sefydliad perthnasol sy’n cadarnhau eich bod yn gwneud gwaith gwirfoddol iddyn nhw yng Nghonwy.
Gweithwyr – Slip cyflog neu ddogfen arall sy’n dangos eich enw chi ac enw a chyfeiriad eich cyflogwr.
ostiwch eich ffurflen ymaelodi atom neu dewch ag ef i’n swyddfa neu un o’r mannau casglu gyda:
Cysylltwch gyda ni yn:
Swyddfa Gofrestredig yr Undeb Credyd
144 Ffordd Conwy, Cyffordd Llandudno – nesaf at siop sglodion Enoch’s.
Mannau Casglu
Gwelwch y linc i “Mannau Casglu” ar y chwith ar gyfer oriau agor yr uchod.
Unwaith mae eich cais am aelodaeth wedi’i gymeradwyo, fe gewch chi baslyfr a gallwch ddechrau cynilo yn syth ac yn rheolaidd. Gallwch hefyd gynilo drwy lenwi mandad Archeb Sefydlog os oes gennych gyfrif banc – llwythwch ffurflen fandad Archeb Sefydlog i’ch cyfrifiadur o’r dudalen “Ffurflenni i’w llwytho” neu cliciwch yma.