
Mae undebau credyd yn bodoli yn unswydd er mwyn gwasanaethu eu haelodau. Mae hyn yn golygu y gall aelodau gael benthyciadau am gyfraddau rhesymol. Dim ond aelodau sy’n cael ymgeisio am fenthyciadau, ac fe anogir ymgeiswyr i barhau i gynilo hyd yn oed wrth iddyn nhw dalu benthyciad yn ôl. Mae hyn yn helpu nid yn unig i ychwanegu at gynilion yr aelod ei hun ond hefyd yn cyfrannu at gronfa gynilion yr undebau credyd sy’n eu galluogi nhw i roi mwy o fenthyciadau i ragor o aelodau o fewn y gymuned.
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol os ydych yn talu’r benthyciad yn ôl yn gynnar – yn wir mi fydd hynny’n arbed ychydig o log i chi.
Dyfyniad o arolwg diweddar a wnaed gan Beaufort Research, Caerdydd:
"Dyna rydw i’n ei hoffi amdano. Maen nhw’n eich annog chi i gynilo wrth i chi dalu eich benthyciad yn ôl. Dydych chi ddim yn benthyg mwy a mwy ac yn mynd i ddyledion pellach, mae’n rhaid i chi gynilo hefyd!"
| Benthyciad | 52 x Taliad Wythnosol |
Yswiriant Diogelwch |
Cyfanswm i’w dalu |
Cost y Benthyciad |
£100 |
£2.17 |
Am ddim |
£112.69 |
£12.69 |
£300 |
£6.51 |
Am ddim |
£338.08 |
£38.08 |
£500 |
£10.84 |
Am ddim |
£563.53 |
£63.53 |
£1,000 |
£21.68 |
Am ddim |
£1,127.06 |
£127.06 |
£2,000 |
£40.86 |
Am ddim |
£2,124.70 |
£124.70 |
£5,000 |
£102.15 |
Am ddim |
£5,311.76 |
£311.76 |
Codir 2% y mis, APR nodweddiadol 26.8%, ar fenthyciadau bychain hyd at £1500
Codir 1% y mis, APR nodweddiadol 12.7%, ar fenthyciadau mwy, £1500 ac uwch
Mae ystyriaeth i’ch cais am fenthyciad yn seiliedig ar eich cymeriad a’ch gallu ariannol i dalu yn ôl. Os ydych eisoes yn aelod, bydd eich cynilion ac unrhyw hanes sydd gennych chi gyda benthyciadau blaenorol hefyd yn cael eu hystyried.
Mae modd gwneud benthyciadau ychwanegol ond bydd angen trafod hynny gyda swyddog o’r Undeb Credyd yn gyntaf.
Yr uchafswm y mae modd ei fenthyg ar hyn o bryd yw £7,500 yn fwy na gwerth eich cyfranddaliadau (cynilion). Mae llog o 2% neu 1% (yn dibynnu ar y swm a fenthycir) yn daladwy ar falans sy’n disgyn bob dydd a, gan nad oes unrhyw gostau cosb am dalu benthyciad yn ôl yn gynnar, nac unrhyw ffioedd trefnu, mae’r cyfan yn golygu bod gwasanaeth gwych ar gael i aelodau. Os byddech yn cymryd benthyciad gyda ni heddiw ac yn ei dalu’n ôl yn llawn yfory, dim ond gwerth un diwrnod o log fyddech chi’n ei dalu.
Nid oes angen i chi wneud benthyciad er mwyn bod yn aelod o Undeb Credyd Llandudno a’r Cylch.
Cam 1 – Casglwch ffurflen gais am fenthyciad o swyddfa’r Undeb Credyd neu unrhyw bwynt casglu. Fel arall, llwythwch ffurflen o’r wefan hon, cliciwch ar “Ffurflenni i’w Llwytho” a wedyn “Cais am Fenthyciad” o’r dewisiadau ar y chwith.
Cam 2 – Llenwch gymaint o’r ffurflen gais ag sy’n bosibl a wedyn ewch ag ef, gyda phrawf o’ch incwm, i’r swyddfa neu unrhyw bwynt casglu er mwyn ei drafod gyda swyddog o’r undeb credyd. Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Cam 3 - Rhoir ystyriaeth i’ch cais am fenthyciad yn seiliedig ar eich cymeriad a’ch gallu ariannol i dalu yn ôl.
Cam 4 – Ystyrir eich cais gan aelodau’r Panel Benthyciadau a byddant yn gwneud penderfyniad. Fe ystyrir pob cais am fenthyciad ar ei gryfderau ei hun a bydd y rhesymau am wrthod unrhyw gais yn cael eu trafod yn gyfrinachol gyda’r aelod.