Beth ydy manteision bod yn aelod?
Mae bod yn aelod o’r undeb credyd yn syniad da, beth bynnag yw eich sefyllfa ariannol.
Mae’r manteision yn cynnwys:
-
Benthyciadau rhad wedi’u gosod ar gyfradd llog uchaf o 2% y mis ac wedi eu haddasu ar gyfer anghenion unigol.
- Llais yn y ffordd mae eich undeb credyd yn cael ei redeg. Yr aelodau yw perchnogion a rheolwyr undeb credyd, sy’n golygu mai chi a’ch cymuned sy’n gwneud y penderfyniadau.
- Taliadau difidend posibl ar eich cynilion.
- Y gallu i ddatblygu arferiad o gynilo’n rheolaidd – rydyn ni’n derbyn taliadau bach a mawr.
- Y sicrwydd bod eich cynilion yn cael eu cadw’n lleol a’u defnyddio er budd eich cymuned.
- Diogelwch ac yswiriant bywyd am ddim ar fenthyciadau (o fewn cyfyngiadau oed penodol). I gael gwybodaeth bellach cliciwch ar “Yswiriant” ar y chwith.
- Sicrwydd bod eich cynilion yn ddiogel. Mae pob undeb credyd yn cael ei yswirio yn erbyn twyll a lladrad ac maent yn cael eu monitro’n ofalus gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).
- Gellir talu budd-daliadau gwladol i mewn yn syth i gyfrifon cyfranddaliadau’r aelodau, a gellir eu tynnu allan, eu cynilo neu eu defnyddio i ad-dalu benthyciad gan yr undeb credyd.
- Rhan o gynllun Iawndal Cenedlaethol – diogelir y £50,000 cyntaf o’ch cynilion yn llawn.
- Mynediad at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol er mwyn cael cyngor am gwynion os ydych yn anhapus gyda gwasanaethau undeb credyd lleol.
- Gwasanaeth cyfrinachol a phersonol.
- Dim costau annisgwyl.
Yn ogystal, mae gwasanaethau sy’n cynnig gwerth ychwanegol yn cael eu cynnig o bryd i’w gilydd, fel nwyddau ynni-effeithiol am bris rhatach. Holwch am wybodaeth bellach gan ein Undeb Credyd neu cliciwch ar “Gwasanaethau” a wedyn “Cylchlythyrau” ar y chwith.
Rheolir pob undeb credyd yng Nghymru gan aelodau gwirfoddol. Mae rhai undebau credyd rwan yn cyflogi pobl i helpu eu rhedeg nhw.
Mae aelodau’n cael eu hannog i chwarae rôl weithgar ym mywyd yr undeb credyd, ac nid yw Undeb Credyd Llandudno a’r Cylch yn eithriad yn hynny o beth. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr – cliciwch ar “Gwirfoddolwyr” am ragor o wybodaeth. What are the benefits of membership?