menu 1
menu 2
menu 3
menu 4
 

168 Ffordd Conwy

Llandudno ar'r Cylch

Conwy LL31 9DU

01492 580028

 

Undebau credyd!

Mae undebau credyd yn gwmnïau cydweithredol ariannol sydd yn eiddo a than reolaeth yr aelodau sy’n eu defnyddio. Maent yn cynnig ffordd gyfleus o gynili a chyfle i gael benthyciadau ar gost isel.

Mae aelodaeth undebau credyd yn seiliedig ar ‘fond cyffredin’, lle mae pobl yn byw neu’n gweithio. Mae undebau credyd yn annog datblygiad cymdeithasol ac economaidd ar raddfa leol. Maent yn cadw cyfoeth y tu mewn i gymunedau drwy annog pobl leol i gynilo. Yn ogystal, gall pobl ddatblygu eu sgiliau drwy wirfoddoli i weithio mewn undeb credyd.

Mae aelodau undeb credyd yn cynilo arian mewn cronfa gyffredin. Gellir defnyddio’r gronfa honno wedyn i roi benthyg arian ar log isel i aelodau’r undeb credyd. Mae pob llog ar ad-dalu benthyciadau yn cael ei hailfuddsoddi yn yr undeb credyd ac felly mae popeth yn aros yn y gymuned. Y llog mwyaf y gall undeb credyd ei godi yn y gyfraith yw 1% y mis (12.68% APR).

Gall undebau credyd llwyddiannus dalu difidend blynyddol ar gynilion eu haelodau.

Cymdeithasau Cydfuddiannol yw Undebau Credyd a gofrestrir drwy’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol ac a reolir gan y gyfraith.

I wybod rhagor am Undebau Credyd yng Nghymru, defnyddiwch y cysylltiadau ar y chwith.

Gwasanaethau undebau credyd

Mae undebau credyd yn cael eu rhedeg yn ddemocrataidd ac mae gan bob aelod hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol, ni waeth faint o gynilion sydd ganddynt. Gellir ethol aelodau i swyddi ar y Bwrdd hefyd.

Ar hyn o bryd ceir ymhell dros 600 o undebau credyd yn y DU, a bron i 50 o’r rhain yng Nghymru. Drwy’r byd mae dros 100 miliwn o aelodau.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r mudiad wedi ehangu’n gyflym yng Nghymru gyda chefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdodau lleol, grwpiau gwirfoddol, cymunedol a chrefyddol a’r Undeb Ewropeaidd. Mae pob un ohonynt wedi cydnabod y rôl bwysig sydd gan undebau credyd, nid yn unig o ran atal dieithrwch cymdeithasol ond hefyd drwy helpu pobl i fuddsoddi yn eu cymuned.

Mae undebau credyd yn cynnig ystod o wasanaethau i’w haelodau gan gynnwys cyfleusterau cynilo a benthyca a chyfleoedd i wirfoddoli. I wybod rhagor am aelodaeth ac am y manteision eraill y gall undebau credyd eu cynnig cliciwch ar y cysylltiadau ar y chwith.

 

  For further information whilst this site is under construction, just call on 01492 - 580028 or e-mail Barry Roberts by clicking on this link.