menu 1
menu 2
menu 3
menu 4
 

168 Ffordd Conwy

Llandudno ar'r Cylch

Conwy LL31 9DU

01492 580028

 

Cael benthyg arian gan undeb credyd

Unig bwrpas undebau credyd yw gwasanaethu eu haelodau. Mae hyn yn golygu y gall aelodau gael benthyg arian ar gyfraddau rhesymol. Dim ond aelodau sy’n cael gwneud cais am fenthyciadau a rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi cynilo’n rheolaidd gyda’r undeb credyd, dros gyfnod o dri mis o leiaf fel arfer. Mae aelodau’n cael eu hannog i barhau i gynilo hyd yn oed wrth ad-dalu benthyciad. Mae hyn nid yn unig yn helpu i ychwanegu at eich cronfa bersonol ond mae’n cyfrannu hefyd at gronfa’r undeb credyd' gan ei alluogi i roi benthyciadau i fwy o bobl yn eich cymuned.

Buddiannau cael benthyg arian gan undeb credyd:

  • Nid oes isafswm y gallwch gael ei fenthyg ac mae ad-daliadau’n cael eu teilwra i fod yn addas i’r unigolyn.
  • Ni cheir taliadau ychwanegol hyd yn oed os ydych yn ad-dalu eich benthyciad yn gynnar.
  • Ni chodir ffioedd trefnu.
  • Ceir yswiriant am ddim gyda phob benthyciad. Os nad ydych yn byw drwy gyfnod y benthyciad caiff eich dyled ei thalu’n awtomatig.
  • Ceir buddiannau yswiriant am ddim drwy fod yn aelod.
  • Mae pob cais am fenthyciad yn cael ei asesu yn ei rinwedd ei hun.
  • Yn ôl y gyfraith y gyfradd log uchaf yw 1% y mis a godir ar y gweddill sydd i’w dalu wrth iddo leihau. Mae hon yn gyfwerth â graddfa log flynyddol o 12.68%.

Cost cael benthyg arian

Mae’r grid isod yn dangos cost cael benthyciad dros gyfnod o flwyddyn.

Maint y Benthyciad Ad-daliadau Wythnosol Yswiriant Gwarchod Cyfanswm yr Ad-daliad

Cost y Benthyciad

£100 £2.05 Am Ddim £106.56 £6.56
£300 £6.15 Am Ddim £319.80 £19.80
£500 £10.25 Am Ddim £533.10 £33.10
£1,000 £20.50 Am Ddim £1,066.20 £66.20
£2,000 £41.00 Am Ddim £2,132.40 £132.40

Beth am gymharu hyn â chyfraddau benthycwyr eraill

  For further information whilst this site is under construction, just call on 01492 - 580028 or e-mail Barry Roberts by clicking on this link.