menu 1
menu 2
menu 3
menu 4
 

168 Ffordd Conwy

Llandudno ar'r Cylch

Conwy LL31 9DU

01492 580028

 

Buddiannau bod yn aelod

Mae bod yn aelod o undeb credyd yn gwneud synnwyr i bawb ni waeth am eu sefyllfa ariannol.

Mae’r buddiannau’n cynnwys:

  • Benthyciadau ar gost isel ar uchafswm graddfa log o 1% y mis sydd wedi eu teilwra i ateb anghenion unigol.
  • Llais ynglŷn â sut mae eich undeb credyd yn cael ei redeg. Mae undeb credyd yn perthyn i’w aelodau ac yn cael ei reoli ganddynt, sy’n golygu mai chi a’ch cymuned sy’n gwneud y penderfyniadau.
  • Taliadau difidend posibl ar eich cynilon.
  • Datblygu’r arfer o gynilo’n rheolaidd – mae croeso i adneuon mawr a bach.
  • Gwybod bod eich cynilion yn cael eu cadw yn yr ardal ac yn cael eu defnyddio er budd eich cymuned.
  • Diogelu eich benthyciad ac yswiriant cynilion bywyd am ddim (yn amodol ar rai cyfyngiadau ar oedran).
  • Tawelwch meddwl bod eich cynilion yn ddiogel. Mae pob undeb credyd wedi ei yswirio rhag twyll a lladrad ac yn cael ei fonitro gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
  • Dim taliadau cudd.

Mae gwasanaethau gwerth ychwanegol eraill ar gael o bryd i’w gilydd, megis gostyngiadau ar nwyddau ynni-effeithlon. Holwch eich undeb credyd lleol am fanylion.

 

  For further information whilst this site is under construction, just call on 01492 - 580028 or e-mail Barry Roberts by clicking on this link.